Brodyr a chwiorydd
About this book
A collection of short stories. Cyfrol o straeon byrion cyfoes sy'n archwilio'r haen denau iawn sy'n cadw cymdeithas yn war. A ninnau'n clywed yn feunyddiol ein bod ar ddibyn apocalyptaidd ir economi byd-eang archwilir y cyfnod arswydus hwn drwy dwrio i hanesion unigolion difyr, gan amlaf rhyw berthynas deuluol rhyngddynt. Yn amlach na pheidio ceir elfen dywyll i'r straeon ac fe'n hanesmwythir yn aml gan ddawn yr awdur i daflu'r darllenydd oddi ar ei echel gyfforddus. Yn hanu o Dregaron, Ceredigion, bu Geraint Lewis yn ysgrifennun llawn amser am bron i ddeng mlynedd ar hugain, yn bennaf ar gyfer y teledu. Mae e'n aelod o dm ysgrifennu'r opera sebon Pobol y Cwm. Hon yw ei bumed gyfrol o ryddiaith a chynhyrchwyd saith o'i ddramau theatr ar hyd a lled Cymru. Mae ef hefyd yn actio yn achlysurol, gan gynnwys rhan Sianco yn y ffilm deledu Martha, Jac a Sianco. Mae e bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Details
Community Reviews
Sign in to rate and review this book
Sign inNo reviews yet. The silence is deafening. Be the main character and write one.