Aderyn Brith
Sobre o livro
Nofel hanesyddol gyffrous yn seiliedig ar hanes gwir, lliwgar Mai ar Manac'h, Arglwyddes Mond sy'n edrych yn ol ar ei bywyd o wersyll Porte d'Angoisse yng Ngwengamp adeg yr Ail Ryfel Byd. Roedd gan bawb farn am y Mai go iawn - rhai yn ei hedmygu n fawr ac eraill yn ei chasau. Pan syrthiodd Ffrainc yn 1940 cafodd ei charcharu yng ngwersyll Porte d Angoisse yng Ngwengamp. Nid oedd pobol yn dod oddi yno n fyw - ond fe gafodd hi a i morwyn bardwn. Ceisiodd awdures y nofel hon feddwl pam. a chreu cymeriad y Cadfridog Kurt Von Heyden sy n ei holi am ei bywyd. Gadawodd Mai ei chartref cyffredin yng nghefn gwlad a theithio i Baris i wneud bywoliaeth fel un o ddawnswyr y Moulan Rouge, ac yn ddiweddarach fe ddaeth yn gwrtesan i ddyn dosbarth uchaf, y Tywysog Antoine, yr i frenin olaf Ffrainc. Mae r stori garlamus yn dod yn fyw o flaen ein llygaid wrth i r awdures, sy n cyhoeddi ei nofel gyntaf, fynd a ni y tu ol i lenni r Moulan Rouge mewn cyfnod cythryblus iawn, a rhoi cyfle i ni gymysgu gyda rhai o enwau adnabyddus byd celf y cyfnod a mwynhau ffasiynau r oes. Nofel garlamus a stori ryfeddol Llydawes go iawn.
Detalhes
O Que a Galera Achou
Entre pra avaliar e comentar
EntrarNinguém falou nada ainda. Seja a primeira pessoa corajosa a dar sua opinião.