O flaenau Tywi i lannau Taf
por
The autobiography of J. Cyril Hughes. Hunangofiant J. Cyril Hughes. Ganwyd Cyril Hughes yn un o r ffermdai mwyaf anghysbell yng Nghymru uwchlaw Ystrad Fflur. Y ffaith iddo gael ei fagu chwe milltir o r pentref agosaf a olygodd na …
- ● 94% match for you
- ● biography & memoir
the long version
The autobiography of J. Cyril Hughes. Hunangofiant J. Cyril Hughes. Ganwyd Cyril Hughes yn un o r ffermdai mwyaf anghysbell yng Nghymru uwchlaw Ystrad Fflur. Y ffaith iddo gael ei fagu chwe milltir o r pentref agosaf a olygodd na chychwynnodd yn yr ysgol nes oedd e n chwech a hanner. Buan y gwnaeth iawn am hynny gan ddisgleirio mewn ysgol a choleg a graddio yn y Gyfraith. Twyll yw r darlun allanol ohono fel g r llonydd a bodlon. Gydol ei fywyd bu n brwydro yn erbyn annhegwch, yn rhyw lefain aflonydd yn y blawd cenedlaethol a chymdeithasol. Ag yntau n dal yn grwt ysgol, arweiniodd brotest yn erbyn bwriad y Swyddfa Ryfel i feddiannu tir uwchben Tregaron. Yn y coleg bu ef a Gwilym Prys Davies yn allweddol mewn protest yn erbyn ymweliad gan y Gweinidog Rhyfel. Gyda i waith o fewn Urdd Gobaith Cymru yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ac yna n Gyfarwyddwr - bu n ganolog ym mrwydr yr iaith a r ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg. Cawn ei farn am ran yr Urdd yn yr Arwisgo, a rwygodd y mudiad dros-dro. Cawn hanes helynt Pentre Ifan. Cawn rannu ei siom wedi canlyniadau Cyfrifiad 1971 a Refferendwm 1979. Cawn hefyd yr ochr arall i r geiniog. Llwyddiant sefydlu Cyngor yr Iaith a r Mudiad Meithrin. Ei lawenydd pan etholwyd Y Tri Dafydd i San Steffan fis Medi 1974. Yn ein dyddiau ni bu n rhan o r ymgyrch dadleuol dros sefydlu melinau ynni gwynt yn ei henfro. Mae e mor ddi-ildio a r fawnog a i lluniodd. Drwy r cyfan cawn ddarlun cynnes hefyd o Cyril y gwladwr, ynghyd a r dinesydd diflino a r eglwyswr ffyddlon. Mae ei bortreadau o i Dad-cu, James Davies, John Bwlchffin a Joni Gwarhos yn fyw ac yn llawn hiwmor. Ydi, mae Cyril Hughes yn ymddangos yn r llonydd a bodlon. Ac yn dilyn oes o wasanaethu bro a chenedl mae n haeddu r bodlonrwydd a r llonyddwch hwnnw. Lyn Ebenezer.
Margaret's verdict
"The autobiography of J. Cyril Hughes. Hunangofiant J. Cyril Hughes. Ganwyd Cyril Hughes yn un o r ffermdai mwyaf anghysbell yng Nghymru uwchlaw Ystrad Fflur. Y ffaith iddo gael ei …"
highlights
what readers held onto
No highlights yet. Be the first.
discussion
what readers said
No reviews yet. Finish it; tell us what you found.